Cwestiynau cyffredin
Mae mabwysiadu yn darparu teulu diogel, cariadus a pharhaol i blentyn na all fyw gyda’u rhieni geni. Unwaith y bydd gorchymyn mabwysiadu yn cael ei roi, byddwch yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn am oes.
Er bod mabwysiadu a maethu yn cynnig sefydlogrwydd a gofal, maent yn wahanol yn gyfreithiol:
Mabwysiadu:
- Rydych chi’n dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn.
- Mae gennych gyfrifoldeb rhiant llawn.
- Mae’r plentyn yn cymryd eich enw teuluol ac yn dod yn aelod parhaol o’ch teulu.
Maethu:
- Mae cyfrifoldeb rhiant yn parhau gyda’r Awdurdod Lleol.
- Rydych chi’n gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr cymdeithasol ac, mewn llawer o achosion, teulu geni’r plentyn.
- Gall gofal fod yn fyrdymor, yn hirdymor, neu’n rhan o gynllun parhaus ar gyfer y plentyn.
Mae’r broses fabwysiadu fel arfer yn cymryd hyd at 6 mis.
Cam 1 (hyd at 2 fis): Gwiriadau cychwynnol, geirdaon a pharatoi.
Cam 2 (hyd at 4 fis): Asesiad manwl sy’n edrych ar eich profiad, eich cryfderau a’ch parodrwydd i fabwysiadu.
Byddwn yn eich hysbysu trwy gydol y broses ac yn eich tywys bob cam o’r ffordd.
I ddechrau eich taith fabwysiadu, cysylltwch â ni dros y ffôn, e-bost, neu drwy fynychu un o’n digwyddiadau gwybodaeth.
Mae plant sy’n aros am deuluoedd mabwysiadol fel arfer wedi wynebu dechrau anodd mewn bywyd ac o bosibl angen cymorth ychwanegol. Gallant fod yn:
- Babanod a phlant bach.
- Plant oedran cynradd.
- Brodyr a chwiorydd sydd angen aros gyda’i gilydd.
- Plant ag anghenion dysgu, anableddau, neu ofynion cymorth ychwanegol.
Gallwch – yn dibynnu ar gynllun gofal y plentyn a’ch amgylchiadau. Bydd dal angen i chi gwblhau asesiad mabwysiadu i sicrhau eich addasrwydd i fabwysiadu. Siaradwch â gweithiwr cymdeithasol y plentyn a’ch gweithiwr cymdeithasol maethu eich hun am arweiniad.
Oes. Os ydych chi wedi cael triniaeth ffrwythlondeb, mae’n rhaid bod y driniaeth wedi gorffen o leiaf chwe mis cyn gwneud cais i fabwysiadu gyda ni. Mae hyn yn rhoi amser i chi addasu ac ystyried eich holl opsiynau cyn dechrau’r broses fabwysiadu.
Gallai. Os ydych chi’n gobeithio mabwysiadu plentyn 0-5 oed, mae’n rhaid nad ydych chi’n ysmygu, neu mae’n rhaid eich bod wedi rhoi’r gorau i ysmygu ers o leiaf 12 mis cyn gwneud cais.
Os oes gyda chi gollfarn droseddol, nid yw hynny yn eich atal yn awtomatig rhag mabwysiadu. Ond, mae’n bwysig eich bod chi’n dweud wrthon ni am unrhyw gollfarnau pan fyddwch chi’n gwneud cais. Bydd rhai troseddau yn atal person rhag mabwysiadu, a byddwn ni bob amser yn agored ac yn onest am sut gallai hyn effeithio ar eich cais.