Pam mabwysiadu gyda ni

Mae mabwysiadu yn newid bywydau. Mae’n gyffrous, yn rhoi boddhad enfawr ac, ar adegau, yn heriol.

Pan fyddwch chi’n dewis Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru, rydych chi’n dewis gwasanaeth a fydd yn sefyll ochr yn ochr â chi o’ch ymholiad cyntaf a thrwy gydol eich taith.

Beth allwch chi ei ddisgwyl wrthon ni

  • Dull a gydnabyddir yn genedlaethol, wedi'i weithredu'n lleol

  • Hyfforddiant cyn ac ar ôl cael eich cymeradwyo

  • Paru gofalus, ystyriol sy'n canolbwyntio ar sefydlogrwydd hirdymor

  • Cefnogaeth leol, bwrpasol a pharhaus

  • Mynediad at rwydwaith cryf o fabwysiadwyr ar draws y rhanbarth

Thomas, Rhiant mabwysiadol gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

O’r alwad ffôn gyntaf, roedden ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein cefnogi. Roedd y tîm yn onest, yn gysurlon, ac ar gael bob amser pan oedd angen cyngor arnon ni. Doedden ni byth yn teimlo ar ben ein hunain.”

Thomas Rhiant mabwysiadol gyda Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Byddwn yn gweithio gyda chi i…

  • Edrych a yw mabwysiadu'n iawn i chi

  • Eich paratoi at fod yn rhiant mabwysiadol trwy hyfforddiant ac asesu

  • Nodi'r plentyn neu'r grŵp brodyr a chwiorydd iawn i chi

  • Eich cefnogi drwy gyflwyno a lleoli'n gynnar

  • Eich helpu i ddeall anghenion a phrofiadau eich plentyn

  • Darparu cefnogaeth a chyngor parhaus ar unrhyw adeg ar ôl lleoli a mabwysiadu

Gwasanaeth lleol gyda chefnogaeth oes

O’ch sgwrs gyntaf i gefnogaeth ôl-derbyn, byddwn yno i’ch helpu i adeiladu dyfodol disglair gyda’ch gilydd.