Cam ymholi
Dyma’ch cyfle chi i weld a yw mabwysiadu’n iawn i chi. Mae pob taith fabwysiadu yn wahanol, a byddwn ni yma i’ch cefnogi a’ch tywys o’r dechrau i’r diwedd.
Gallwch chi gysylltu â ni dros y ffôn, e-bost neu drwy fynychu un o’n digwyddiadau gwybodaeth.
Ar ôl ymweliad cartref i ddechrau, byddwch yn cael ffurflen Cofrestru Diddordeb. Dyma’ch cais ffurfiol i ddechrau’r broses fabwysiadu.
Cam 1: Gwiriadau, geirdaon a pharatoi
Amserlen fras: 2 fis
Wedi i Gam 1 ddechrau, bydd gweithiwr cymdeithasol penodol sy’n asesu yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn eich cefnogi drwy gydol y broses.

Gwiriadau
Gyda’ch caniatâd, byddwn ni’n gofyn am wiriadau gan:
- Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
- Yr Awdurdod Iechyd
- Yr Awdurdod Lleol (gan gynnwys unrhyw awdurdodau lle rydych wedi byw o’r blaen)
- Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
- Ysgol eich plentyn a/neu ymwelydd iechyd (os yw’n berthnasol)
Byddwch hefyd yn cwblhau asesiad meddygol llawn gyda’ch meddyg teulu, sy’n cael ei adolygu gan ymgynghorydd meddygol yr Awdurdod Lleol.
Geirdaon cyflogaeth a phersonol
Byddwn yn gofyn am eirda gan:
- Eich cyflogwr presennol neu’r sefydliad lle rydych chi’n gwirfoddoli (os yw’n berthnasol)
- Tri geirda personol
- Unrhyw blant sy’n oedolion nad ydynt yn byw gyda chi (os yw’n berthnasol)
- Unrhyw bartneriaid hirdymor blaenorol (rydym yn deall y gall hyn fod yn sensitif a byddwn yn rhoi cefnogaeth i chi)
Hyfforddiant Paratoi ar gyfer Mabwysiadu
Byddwch chi’n cael gwahoddiad i’n cwrs paratoi 4 diwrnod, sy’n eich helpu i ddysgu rhagor am fabwysiadu ac i benderfynu a yw’n iawn i chi.
Os ydych yn gwneud cais fel cwpwl, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch fod ym mhob sesiwn.
Cam 2: Asesu
Amserlen fras: 4 mis
Mae Cam 2 yn canolbwyntio ar ddeall eich amgylchiadau a’ch parodrwydd i fabwysiadu, gan roi amser i chi ar yr un pryd i ddyfnhau eich dealltwriaeth o fabwysiadu ac o anghenion plant a allai gael eu gosod gyda chi.
Mae’n dechrau drwy gyfarfod cytundeb asesu, ac yna 6 sesiwn wythnosol gyda’ch gweithiwr cymdeithasol. Byddwch chi hefyd yn mynychu hyfforddiant ychwanegol.

Byddwn ni’n edrych ar
Yna bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn cwblhau eich Adroddiad Darpar Fabwysiadwr, a byddwch yn gallu ei ddarllen a gwneud sylwadau arno.
Y Panel Mabwysiadu
Bydd eich Adroddiad Darpar Fabwysiadwr yn cael ei gyflwyno i’r Panel Mabwysiadu, a byddwch chi’n cael gwahoddiad i fynychu gyda’ch gweithiwr cymdeithasol.
Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymgynghorydd meddygol, oedolyn a fabwysiadwyd, rhiant mabwysiadol, ac aelodau annibynnol eraill.
Bydd y Panel yn gwneud argymhelliad ynglŷn â’ch addasrwydd i fabwysiadu, a gaiff ei adolygu o fewn 7 diwrnod. Byddwch chi’n derbyn adborth llafar am argymhelliad y Panel o fewn 24 awr a chadarnhad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod.
Os na chewch chi eich cymeradwyo, gallwch wneud sylwadau i’r Panel Mabwysiadu neu wneud cais am Banel Adolygu Annibynnol.

Ar ôl cael eich Cymeradwyo: Paru a Lleoli
Wedi i chi gael eich cymeradwyo, byddwn ni’n gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r pariad cywir.
Os na fyddwn yn gallu dod o hyd i rywun yn lleol, byddwn yn eich cyfeirio at Gofrestr Mabwysiadu Cymru.
Yn barod i gymryd y cam cyntaf?
P’un a ydych chi newydd ddechrau archwilio mabwysiadu neu’n teimlo’n barod i gychwyn eich taith, rydym yma i helpu. Cysylltwch â’n tîm am sgwrs gyfeillgar heb unrhyw ymrwymiad.