Mabwysiadu plentyn

Mae mabwysiadu yn darparu teulu parhaol i blentyn na all fyw gyda’i rieni geni.

Mae mabwysiadu yn benderfyniad sy’n newid eich bywyd chi a’r plentyn. Pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, daw’n aelod llawn a chyfreithiol o’i deulu mabwysiadol am oes.

Pwy sy'n aros i gael ei mabwysiadu?

  • Plant iau

  • Plant hŷn

  • Brodyr a chwiorydd sydd angen aros gyda'i gilydd

  • Plant gydag anghenion ychwanegol

  • Plant o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol

Mae plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu yn dod o gefndiroedd ac amgylchiadau amrywiol, ac maent yn wahanol yn eu hoedran, eu profiadau, a’u hanghenion cymorth.

Cadwch feddwl agored

Rydym yn annog mabwysiadwyr posibl i gadw meddwl agored am y plant y gallent eu croesawu i mewn i’w teulu. Byddai bod yn agored i wahanol oedrannau, cefndiroedd a hangen yn golygu y gallwch ddarparu cartref cariadus, sefydlog i fwy o blant sy’n aros.

Tad a merch ar ei ysgwyddau yn y parc.