Diogelu Data a Phreifatrwydd Gwybodaeth ar gyfer Darpar Fabwysiadwyr

Pwy yw Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru?

Mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru (MCGC) yn gydweithrediad rhwng pedair asiantaeth fabwysiadu awdurdod lleol sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Rydym yn cyflawni dyletswyddau cyfreithiol fel Gwasanaeth Mabwysiadu ar ran y pedwar awdurdod lleol, yn ogystal â darparu ystod o wasanaethau sy’n ymwneud â mabwysiadu.

Nodyn Preifatrwydd Cyffredinol

Gan mai Sir Gaerfyrddin yw’r corff cynhaliol ar gyfer MCGC, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio eich data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Gwybodaeth Ychwanegol am Breifatrwydd

Mae’r wybodaeth ganlynol yn wybodaeth ychwanegol benodol am sut y mae Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru (MCGC) yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Pam mae angen gwybodaeth bersonol ar MCGC?

Ein prif weithgaredd yw gwirio a yw pobl sydd am fabwysiadu plentyn yn addas i fabwysiadu. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni gasglu llawer o wybodaeth bersonol am y darpar fabwysiadwyr a’r bobl sydd wedi bod yn bwysig yn eu bywydau. Y rheswm am hyn yw bod y cyfreithiau ynghylch mabwysiadu’n golygu bod rhaid i ni wneud gwiriadau trylwyr.

Yn ogystal ag asesu mabwysiadwyr, rydym hefyd yn gweithio gydag ystod o bobl y mae mabwysiadu wedi cael effaith arnynt, ac weithiau bydd rhaid i ni gael gwybodaeth bersonol ganddynt. Er enghraifft, rydym yn cael ceisiadau am gymorth ar ôl mabwysiadu a’r cynllun blwch llythyrau. Nid yw’r rheiny’n gofyn am gymaint o wybodaeth â’r broses fabwysiadu ei hun, ond bydd angen i ni gael ychydig o wybodaeth bersonol gyfyngedig.

Pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu?

Mae MCGC yn casglu gwybodaeth bersonol am ddarpar fabwysiadwyr ganddynt hwy eu hunain a chan ystod o bobl yn eu bywydau, megis ffrindiau, teulu, cyn-bartneriaid a chanolwyr. Mae gwybodaeth ychwanegol yn cael ei chasglu gan sefydliadau perthnasol, gan ddibynnu ar amgylchiadau’r darpar fabwysiadwr, megis meddygon teulu, ymgynghorwyr ac awdurdodau lleol eraill lle bu’r ymgeiswyr yn byw.

Yn gynnar yn y broses o asesu addasrwydd, mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth yn dod gan yr unigolyn ei hun a’r ffynonellau a ddarperir ganddo.

Wrth iddi fynd yn ei blaen mae’r broses o asesu yn gofyn am ragor o wybodaeth ac yn y diwedd, pan fyddwn yn barod i wneud penderfyniad ynghylch darpar fabwysiadwyr, bydd angen i ni gael gwybod am y canlynol:

  • Eu hanes personol a’r hanes am eu perthnasoedd
  • Hanes eu teulu
  • Eu rhan mewn unrhyw weithgareddau troseddol
  • Eu hanes meddygol llawn
  • Eu profiad fel rhieni (os yw’n berthnasol)
  • Barn gyfrinachol y bobl allweddol sydd yn eu bywyd ynghylch y potensial iddynt fabwysiadu’n llwyddiannus.

Hefyd bydd angen lefel debyg o fanylder arnom am unrhyw un sy’n byw gyda’r darpar fabwysiadwyr.

Rydym yn cynghori darpar fabwysiadwyr i sicrhau bod y bobl y maent yn byw gyda hwy yn ymwybodol o’r math o wybodaeth sydd ei hangen cyn iddynt wneud cais am fabwysiadu.

A ganiateir i MCGC gasglu’r wybodaeth hon?

Mae MCGC yn casglu gwybodaeth bersonol am ddarpar fabwysiadwyr oherwydd bod angen prosesu’r wybodaeth bersonol hon er mwyn cyflawni tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth i reolwr arfer ei awdurdod swyddogol. Yr enw ar hyn yw ‘tasg gyhoeddus’.

Dyma’r cyfreithiau penodol yr ydym yn cydymffurfio â hwy:

  • Deddf Mabwysiadu 1976
  • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
  • Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Panel a’r Diwygiadau Dilynol) (Cymru) 2012
  • Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005
  • Cyfarwyddiadau Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Trefniadau Mabwysiadu ar y Cyd) Cymru 2015

Rydym hefyd yn ystyried unrhyw ganllawiau dilynol perthnasol mewn perthynas â’r cyfreithiau hyn.

Pwy sy’n gweld y wybodaeth y mae MCGC yn ei chasglu a’i chofnodi?

Mae MCGC ond yn defnyddio’r wybodaeth at y dibenion a bennir o dan y gyfraith (gweler yr adran flaenorol). Mae’r gyfraith yn mynnu bod rhaid i Banel Mabwysiadu ystyried gwybodaeth asesu am ddarpar fabwysiadwyr. Mae’r Panel Mabwysiadu’n cynnwys aelodau annibynnol yn ogystal ag aelodau sy’n weithwyr. Mae ganddo gadeirydd annibynnol, aelodau annibynnol, mabwysiadwyr, oedolion a gafodd eu mabwysiadu, gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr etholedig.

Mae’r wybodaeth a welwyd gan y Panel Mabwysiadu yn cael ei diogelu’n llym gan fesurau diogelwch arbennig sydd ar waith i sicrhau na all unrhyw un arall weld y wybodaeth.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn gall unrhyw un arall gael mynediad i’r wybodaeth a gedwir amdanoch, a dim ond lle caiff yr amgylchiadau hyn eu hesbonio yn y ddeddfwriaeth fabwysiadu berthnasol, megis arolygwyr gofal a benodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru neu Gomisiynydd Plant Cymru.

Bydd darpar fabwysiadwyr yn cael mynediad i Ran 1 o’r Adroddiad Mabwysiadu. Nid oes ganddynt hawl i gael mynediad i Ran 2 o’r Adroddiad gan ei fod yn cynnwys y geirdaon annibynnol cyfrinachol.

Ar ôl i’r Panel roi cymeradwyaeth, dechreuir y dasg o ddod o hyd i deulu. Ar ôl i gyswllt posibl gael ei nodi, mae’r adroddiad wedi’i gwblhau’n cael ei rannu’n ddiogel â’r asiantaeth fabwysiadu a fydd yn darllen yr adroddiad ac yn ystyried y cyswllt. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddefnyddio gan yr asiantaeth fabwysiadu dim ond at ddibenion ystyried y cyswllt hwnnw.

Beth yw fy hawliau ynghylch y wybodaeth bersonol yr ydych yn ei chadw amdanaf?

Mae’r GDPR yn rhoi cyfres o hawliau i ddinasyddion o ran eu gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, mae erthygl 23 o’r GDPR hefyd yn pennu bod modd i’r hawliau hynny gael eu diwygio gan y llywodraeth pan fydd yn ystyried y bydd angen dull gwahanol er budd y cyhoedd.

Mae’r hawliau canlynol wedi’u diwygio yn sgil y ffaith bod MCGC yn prosesu gwybodaeth am fabwysiadu fel tasg gyhoeddus:

Hawl Dinasyddion GDPRYn berthnasol?Nodiadau
Yr hawl i gael mynediad i ddataNac ydyYn achos cofnodion mabwysiadu, mae Atodlen 4 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn nodi’n glir bod unrhyw wybodaeth a gesglir o dan y ddeddfwriaeth fabwysiadu’n eithriedig rhag Erthygl 15 o GDPR. Mae hyn yn golygu nad oes angen i GMCGC roi mynediad i gynnwys unrhyw ddeunydd a gesglir neu a baratoir yn ystod y broses fabwysiadu.
Yr hawl i ddileuEfallaiBydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Caniateir gwrthod o dan y gyfraith lle byddai cydymffurfio’n gyfreithlon ac na fyddai’n niweidio darpariaeth y gwasanaeth.
Yr hawl i gywiro gwallauEfallaiBydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Caniateir gwrthod o dan y gyfraith lle byddai cydymffurfio’n gyfreithlon ac na fyddai’n niweidio darpariaeth y gwasanaeth.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu dataEfallaiBydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Caniateir gwrthod o dan y gyfraith lle byddai cydymffurfio’n gyfreithlon ac na fyddai’n niweidio darpariaeth y gwasanaeth.
Yr hawl i wrthwynebu prosesuEfallaiNid ydym yn defnyddio unrhyw brosesau i benderfynu’n awtomatig. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol. Caniateir gwrthod o dan y gyfraith lle byddai cydymffurfio’n gyfreithlon ac na fyddai’n niweidio darpariaeth y gwasanaeth.
Yr hawl i drosglwyddo dataNac ydyNid yw’r hawl hon yn berthnasol i unrhyw ddata sy’n ymwneud â thasg gyhoeddus.


Rhagor o wybodaeth berthnasol

Bydd gwybodaeth am fabwysiadwyr a gymeradwyir yn cael ei chadw am 35 mlynedd. Bydd ymholiad nad yw’n cael ei symud ymlaen yn cael ei gadw am 15 mlynedd. Bydd gwybodaeth am blant yn cael ei chadw am 100 o flynyddoedd.

Gall unigolyn gael mynediad i’w gofnodion mabwysiadu ei hun yn unol â darpariaethau’r ddeddfwriaeth fabwysiadu. Ni all unigolyn gael mynediad i’w gofnodion mabwysiadu drwy ddefnyddio hawliau Erthygl 15 GDPR neu hawliau i wneud cais o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Sut y gallaf gŵyno am sut y mae MCGC yn ymdrin â’m gwybodaeth
bersonol?

Gallwch gŵyno’n uniongyrchol i MCGC, neu gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyngor Sir Caerfyrddin.

Beth os byddaf yn parhau i fod yn anfodlon?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau data personol drwy fynd i wefan y Comisiynydd Gwybodaeth,

I gael rhagor o gymorth annibynnol ynghylch diogelu data, a’ch hawliau data personol, gallwch gysylltu â’r canlynol:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
Ail lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
Ffôn: 02920 678400
Ffacs: 02920 678399
E-bost: wales@ico.gov.uk