Mabwysiadu heb SCC
Pan na all plant aros gyda’u teulu geni, maent fel arfer yn cael eu gosod gyda gofalwyr maeth tra bo penderfyniadau’r llys yn cael eu gwneud. Os mai’r cynllun yw mabwysiadu, caiff plant eu symud fel arfer o ofal maeth i’w teulu mabwysiadol.
Sut mae SCC yn wahanol
Mae SCC yn caniatáu i blant gael eu lleoli’n gynnar gyda gofalwyr sydd wedi’u cymeradwyo fel gofalwyr maeth a mabwysiadwyr. Mae hyn yn lleihau sawl gwaith y bydd plant yn symud ac yn rhoi iddynt y cyfle i creu cysylltiadau diogel o’r dechrau.
Bod yn agored i ansicrwydd
Mewn nifer fach o achosion, gall y llys benderfynu y dylai plentyn ddychwelyd at ei deulu geni. Golyga hyn fod angen i ofalwyr SCC reoli rhywfaint o ansicrwydd tra bo penderfyniadau’n cael eu gwneud.

Ai dyma'r llwybr iawn i chi?
Os teimlai y gallech ddelio â rhywfaint o ansicrwydd i helpu plentyn i osgoi symudiadau lluosog a chael mwy o sefydlogrwydd, efallai mai SCC yw’r llwybr iawn i chi.